CYNGOR CYMRU
CYNGOR CYMRU
ETHOL AELODAU I GYNGOR CYMRU
Swyddogaeth Cyngor Cymru yw i weithredu penderfyniadau polisi y Fforwm Cymreig ac i reoli’r mudiad yng Nghymru. Mae hyn yn golygu rheoli’r swyddfa, y staff a phrosiectau, a bod yn gyfrifol am gyfeiriad ac adnoddau Gwerin y Coed. Er ein bod yn ceisio sicrhau bod y Cyngor yn cynnwys arweinyddion o’r holl Ranbarthau, nid yw’r aelodau yn cynrychioli Rhanbarthau neu grwpiau, ond yn hytrach y mudiad cyfan. Mae’r Cyngor yn cyfarfod 5-6 gwaith y flwyddyn, fel arfer yng Nghanolbarth Cymru, neu drwy gynhadledd dros y ffôn.
Mae Cyngor Cymru yn cynnwys 8 aelod etholedig, gyda 4 fel arfer yn cael eu hethol bob blwyddyn am gyfnod o ddwy flynedd. Hefyd, mae’r Trysorydd, Cynrychiolydd Cyffredinol y Cyngor a Chynrychiolydd y DF yn aelodau yn rhinwedd eu swydd ac ‘rydym yn medru cyfethol hyd at 3 aelod arall. Eleni ceir swyddi gwag ar gyfer pedwar aelod etholedig. Gall aelodau presennol sefyll eto. Hefyd mae gan holl aelodau llawndaledig Gwerin y Coed yr hawl i sefyll ac ‘rydym yn annog yn arbennig bobl o Dde Cymru a / neu aelodau grwpiau newydd i wneud hynny.

