A hoffech ymuno â ni?
‘Does dim grwp Gwerin y Coed yn eich ardal?
Mae ‘na ardaloedd o hyd yng Nghymru lle nid oes cyfle i blant a phobl ifanc i gymryd rhan mewn gweithgareddau’r Gwerin. Er mwyn tyfu a datblygu mae angen arnom wirfoddolwyr newydd brwdfrydig - pobl fel chi - i gysylltu â ni. Mae gennym gyfres o ddeunyddiau hyfforddi ac adnoddau i’ch helpu ac mae gennym rwydwaith o wirfoddolwyr a gweithwyr rhan-amser a fydd yn medru eich cefnogi. Os ‘rydych yn teimlo boid eich ardal yn barod i dderbyn grwp o’r Gwerin, y cam cyntaf yw i siarad yn anffurfiol i gyfeillion ac os oes gennych blentyn yn yr ysgol, i rieni eraill yr ydych yn eu hadnabod.
Er mwyn sefydlu grwp newydd mae angen nifer o oedolion sy’n ymrwymedig i’n hamcanion ac sy’n fodlon gweithio’n galed i ddatblygu’r gweithgareddau. Gadewch i ni wybod pan ‘rydych yn dechrau’r proses hwn: gallwn ddarparu amrywiaeth o daflenni i’ch helpu i egluro amcanion ac athronyddiaeth Gwerin.
Gellir trefnu hefyd i grwp sy’n bodoli eisoes i ymweld â’ch ardal. Sefydlir gwahanol grwpiau mewn ffyrdd gwahanol ond weithiau mae’n syniad da i drefnu Diwrnod o Hwyl gyda gemau a gweithgareddau cydweithredol mewn canolfan gymunedol neu ysgol leol i ehangu’r nifer o bobl sy‘n cymryd rhan. Yn anaml iawn y ceir trafferth i ddenu digon o blant i gymryd rhan mewn grwp o’r Gwerin!
A fydde croeso i mi mewn grwp sy’n bodoli eisoes?
‘Rydym yn dibynnu ar oedolion newydd i wirfoddoli er mwyn helpu’n grwpiau i ddatblygu ac ehangu, ac mae gan bawb sgiliau a gwybodaeth arbenigol i gynnig. Peidiwch ag ofni cynnig eich help. Ffordd dda i ddechrau yw i ddod i gyfarfodydd am ychydig o wythnosau i ddod i adnabod yr oedolion eraill a’r plant ac i ffeindio allan beth sy’n mynd ymlaen. Neu efallai bydd angen eich help ar y daith wersylla nesaf.
Mae oedolion yn ymuno fel aelodau'r Gwerin ac yn talu tanysgrifiad aelodaeth blynyddol. Mae hyn yn rhannol yn ofynnol o dan ein polisi amddiffyn plant. Mae aelodau hefyd yn cael eu diogelu gan yswiriant y mudiad pan maent yn cymryd rhan mewn gweithgareddau’r Gwerin.
Ydio’n hwyl?
Ydi, neu ni fydde pwynt yn ei wneud. A chredwn fod yr amcanion yr ydym yn anelu atynt yn holl-bwysig. Fel arweinydd byddwch yn gweithio ochr yn ochr â phobl ifanc mewn mudiad sy’n credu’n gryf mewn adeiladu dyfodol gwell i bawb ohonom. Fel mae’n hegwyddorion yn datgan, ein gobaith yw creu byd sy’n seiliedig ar gydraddoldeb, cyfeillgarwch, heddwch a thegwch cymdeithasol trwy gydweithio a chydweithrediad.
