English
Print This Page

Amdanom Ni

Gwerin y Coed yw’r adran Gymreig o’r Woodcraft Folk, sef elusen addysgiadol genedlaethol i bobl ifanc. Sefydlwyd y Woodcraft Folk ym 1925, ac mae’n fudiad cynyddol addysgiadol ar gyfer plant a phobl ifanc sy’n anelu at ddatblygu hunan-hyder a gweithgaredd o fewn cymdeithas, gyda’r gobaith o greu byd cynaliadwy sy’n seiliedig ar gydraddoldeb, cyfeillgarwch, heddwch a chydweithrediad. Trwy ei weithgareddau mae’r mudiad yn ceisio rhoi i’w aelodau ddealltwriaeth o faterion pwysig megis yr amgylchedd, gwrthdaro a thlodi gyda’r ffocws allweddol yn ddiweddar ar ddatblygiad cynaliadwy.

A Gwerin camp

Sut mae Gwerin y Coed yn cael ei drefnu?

Cysylltwch â ni

Noddwyr

Cyngor Cymru


Mae grwpiau’r Gwerin yn cyfarfod yn wythnosol, gan fwynhau rhaglen amrywiol sy’n cynnwys gemau, drama, trafodaeth, prosiectau, crefftau, canu a gweithgareddau eraill, yn ogystal â dilyn rhaglen addysgiadol sy’n seiliedig ar ymwybyddiaeth o faterion pwysig yn lleol ac ar sail fyd-eang. ‘Rydym hefyd yn trefnu gweithgareddau awyr agored gan gynnwys aros mewn hosteli a gwersylla. Mae’r bobl ifanc hefyd yn cael y cyfle i gymryd rhan mewn gwersylloedd rhyngwladol a theithiau cyfnewid.




2358