English

Croeso i wefan Gwerin y Coed

Mudiad addysgiadol ar gyfer plant a phobl ifanc yw Gwerin y Coed. Anelwn at ddatblygu hunan-hyder a gweithgaredd o fewn cymdeithas, gyda’r gobaith o greu byd cynaliadwy sy’n seiliedig ar gydraddoldeb, cyfeillgarwch, heddwch a chydweithrediad. Mae gennym grwpiau lleol ledled Cymru sy’n cyfarfod yn wythnosol. Ffeindiwch allan rhagor.

Newyddion

Page 1 of 2  > >>

19/03/10

Daeth Span That World With Music i Aberystwyth ym mis Chwefror. Trefnwyd y gig gan bobl ifanc ac mae wedi magu brwdfrydedd yn yr ardal i grwp newydd o DFs.

11/10/09

Cynulliad Blynyddol Gwerin

9-11 O HYDREF - HOSTEL IEUENCTID KINGS, DOLGELLAU

Dyma gyfle i gwrdd ac aelodau Gwerin y Coed o hyd a lled Cymru, dal i fyny ar y flwyddyn diwethaf, a chyllunio ar gyfer y flwyddyn i ddod. Mae’r penwythnos yn cynnwys y Cyfarfod Blynyddol ffurfiol.

14/05/09

Gwersyll Celtaidd
Haf 2009


ar lan Llyn Tegid ger Y Bala. Mae hwn yn wersyll ar gyfer bawb o bob oed a chaiff ei bweru gan ynni adnewyddol. Cawn gyfle i ddysgu sut i fyw  mewn harmoni ag elfennau natur a sut i drosglwyddo’r sgiliau o wneud hynny, i eraill. Edrychwch ar wefan: www.gwerin.org/gwersyllceltaidd.
22/01/08

Safodd y nifer fwyaf erioed o bobl ifanc yn etholiad Cyngor Cymru (bwrdd rheoli Gwerin y Coed) yn ostod y Gynhadledd Blynyddol yn Ne Cymru, ac etholwyd chwech ohonyn nhw - yr ieuengaf ond yn bedair ar ddeg oed.

Peth Cymraeg

Un beudy anhygoel, dau ddiwrnod, tri gitar (wel, dau, ac iwcalili), tamad o Gymraeg, a lot o fisgedi. LOT o fisgedi. Swnio fel Peth Cymru i mi...

Rhwng 18-20 mis Mehefin, glaniodd llwyth o DFs o Gymru a Lloeger gyfan ar faes gwersylla Tŷ Gwyn, Ynyslas am benwythnos llawn “busnes”, bwyd llysieuol a mwg tân. Bu gweithdai am wahanol ddulliau o wneud penderfyniadau, cynnigion ar gyfer Cyfarfod Blynyddol Woodcraft, sut i aildanio fflam DFs yng Nghymru a thrafodaethau agored, gyda amrywiaeth o leisiau, a weddol dipyn o bobl sy'n newydd i'r Pethau 'ma... Lliw nos, roedd canu, sgyrsiau hir, ac hyd yn oed ychydig o gwsg, er gwaetha'r tren am bump y bore...

Ar ddydd Sul, wnaethon ni adael wedi ein bywiogi, wedi ein hysbrydoli, ac yn cyffro am y dyfodol ar gyfer DFs yng Nghymru – bydd 'na grŵp yn cwrdd ym Mhenarth cyn hir! I gyd at ei gilydd, roedd yn llwyddiant mawr, yn dangos beth gallen ni wneud, ac yn rhywbeth werth ei wneud eto.

Newydd i Werin y Coed?

  • Ffeindiwch grwp yn eich ardal ar y Dudalen Grwpiau
  • Ffeindiwch allan am wirfoddoli ar y dudalen Cymryd Rhan
  • Yn meddwl am sefydlu grwp? Ffeindiwch allan am sefydlu

Yn aelod eisoes?



5691